SL(6)732 – Rheoliadau’r Platfform Gwybodaeth am Etholiadau Cymreig (Diwygiadau) 2026

Cefndir a Diben

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau’r Platfform Gwybodaeth am Etholiadau Cymreig 2025 (“Rheoliadau 2025”).​ Maent yn disodli cyfeiriadau at orchymyn o dan adran 13 o Ddeddf​ Llywodraeth Cymru 2006 yn Rheoliadau 2025 er mwyn mewnosod, yn lle hynny, y​ darpariaethau cyfatebol penodol yng Ngorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl)​ 2025 (O.S. 2025/864) (Cy. 150). ​Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud diwygiadau i’r diffiniad o “ymgeisydd” er mwyn ​gwahaniaethu’n gliriach rhwng ymgeiswyr unigol ac ymgeiswyr rhestr plaid, a dileu’r amod ​ynghylch yr arddull ffont ar gyfer datganiad ymgeisydd.​

Gweithdrefn

Gweithdrefn annilysu’r Senedd.

Gwnaed y Rheoliadau hyn gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd. Caiff y Senedd annilysu’r Rheoliadau o fewn 40 niwrnod (ac eithrio unrhyw ddiwrnodau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i’r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd.

Materion technegol: craffu

Nodir y 4 pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn cysylltiad â’r offeryn hwn.

1.    Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â’i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.

Yn y rhaglith, nid yw'n ymddangos bod yr adrannau o Ddeddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 a nodir yn adlewyrchu'n gywir y pwerau galluogi y dibynnwyd arnynt  i wneud y Rheoliadau hyn. Mae rhestr y darpariaethau galluogi yn cynnwys adran 26(4) sy'n cynnwys ystod eang o bwerau gwahanol. Fodd bynnag, dylai nodi'r paragraffau perthnasol yn yr is-adran honno sy'n cynnwys y pwerau galluogi y dibynnir arnynt i wneud y Rheoliadau hyn. Mae'n creu problem yn benodol fod adran 26(4)(c) yn ddarostyngedig i weithdrefn wahanol. Os dibynnir ar y pŵer yn adran 26(4)(c), dylai'r offeryn fod wedi'i wneud o dan y weithdrefn gymeradwyo. Ynghyd â hyn, mae'r rhestr yn cynnwys adran 26(8), ond nid yw'n arferol nodi darpariaethau nad ydynt ond yn pennu'r weithdrefn berthnasol y gwneir yr offeryn oddi tani.

2.    Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol.

Yn rheoliad 4, mae'n nodi'n anghywir fod Rheoliadau 2025 wedi'u diwygio yn unol â rheoliadau 5 a 6. Mae Rheoliadau 2025 hefyd wedi'u diwygio gan reoliad 7 o'r Rheoliadau hyn. Felly, nid yw rheoliad 4 yn nodi'n gywir ddarpariaethau diwygio y Rheoliadau hyn.

3.    Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol.

Yn rheoliad 5(d), mewnosodir diffiniad newydd o “ymgeisydd unigol” yn rheoliad 2 o Reoliadau 2025. Mae'r diffiniad yn cynnwys cyfeiriadau at “etholiad i’r Senedd” ac “ymgeisydd rhestr plaid” sydd ill dau yn dermau a ddiffinnir yng Ngorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 (“Gorchymyn 2025”). Fodd bynnag, nid oes ystyr wedi’i roi i'r naill na'r llall o'r termau hynny yn y Rheoliadau 2025 presennol. Felly, os bwriedir i “etholiad i’r Senedd” ac “ymgeisydd rhestr plaid” ddwyn yr un ystyr ag a roddir gan erthygl 2(1) o Orchymyn 2025, dylid mewnosod diffiniadau’r termau hynny yn Rheoliadau 2025 hefyd.

4.    Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol.

Yn rheoliad 6, mae'n ymddangos bod sawl gwall yn y cyfeiriadau newydd sy'n disodli'r cyfeiriadau presennol yn rheoliad 6(1) o Reoliadau 2025, fel a ganlyn. Yn rheoliad 6(c), dylai gyfeirio at “rheol 31(1)” i fod yn fanwl gywir oherwydd dyna'r ddarpariaeth benodol sy'n ymwneud â'r hysbysiad o bleidlais. Yn rheoliad 6(d), dylai gyfeirio at “rheol 31(2)" yn hytrach na "rheol 32(2)” oherwydd dyna’r ddarpariaeth sy’n ymwneud â’r hysbysiad o sefyllfa pob gorsaf bleidleisio a’r disgrifiad o bleidleiswyr sydd â hawlogaeth i bleidleisio. Yn rheoliad 6(e), dylai gyfeirio at “rheol 64" yn hytrach na "rheol 62” oherwydd dyna’r ddarpariaeth sy’n ymwneud â datgan canlyniadau.

Rhinweddau: craffu    

Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn cysylltiad â’r offeryn hwn.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru ar gyfer yr holl bwyntiau adrodd.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

4 Chwefror 2026